Fe fydd Llywodraeth Prydain yn cyhoeddi cynlluniau newydd ar gyfer datganoli yn yr Alban – ond fe fydd dwy dreth bwysig ar goll.
Fe fydd y mesur newydd yn golygu bod Llywodraeth San Steffan a ‘r Llywodraeth yng Nghaeredin yn rhannu’r cyfrifoldeb am dreth incwm, gyda’r Alban yn colli peth o’i grant o’r canol.
Fe fydd Mesur yr Alban yn dilyn argymhellion adroddiad gan yr Arglwydd Calman ond, yn ôl papur newydd Scotland on Sunday, fe fydd dwy dreth bwysig ar goll.
Mae’n dweud na fydd treth ar deithwyr awyrennau na threth ar gloddio am gerrig yn cael eu cynnwys a bod y rheiny werth £150 miliwn.
O ganlyniad, mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi galw’r mesur newydd yn “Calman minus” ond mae’r pleidiau eraill yn ei annog i’w gefnogi.
Mae plaid y Llywodraeth, yr SNP, wedi bod yn galw am annibyniaeth ariannol lwyr i’r Alban, gan gynnwys rheolaeth tros yr incwm o olew.