Fe fydd ‘Dan y Dyn’ – Dan Carter – yn wynebu Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn ac yn cael y cyfle i dorri record pwyntiau’r byd.

Roedd amheuon tros ffitrwydd faswr Seland Newydd ar ôl y gêm yn erbyn Iwerddon ond fe gyhoeddwyd heddiw y bydd yn chwarae, yn rhan o dîm sy’n cynnwys pump newid.

Fe fydd hyd yn oed yn gryfach na’r tîm a gurodd Iwerddon wrth i’r Crysau Duon fynd am y gamp lawn yn erbyn y gwledydd cartref.

Mealamu’n ôl

Fe fydd y bachwr Keven Mealamu’n ôl wedi gwaharddiad a Brad Thorn yn dod i mewn i’r ail reng i ennill ei 50fed cap, ochr yn ochr â Sam Whitelock sy’n cael dyrchafiad o’r fainc.

Y newidiadau eraill yw Jimmy Cowan yn fewnwr, Isaia Toeava yn dod i mewn ar yr asgell dde a Sonny B ill Williams yn ennill ei drydydd cap yn y canol.

Mae’r cyn-chwaraewr rygbi’r gynghrair wedi gwneud argraff fawr hyd yn hyn gyda’i allu i basio’r bêl allan o’r dacl gyda chefn ei law.

Dim ond tri phwynt sydd eu hangen ar Dan Carter i ddod yn gyfartal gyda maswr Lloegr, Jonny Wilkinson, ar 1175 o bwyntiau rhyngwladol. Dwy gic ddydd Sadwrn ac fe fydd ar y blaen.

Barn Graham Henry

“Mae’r tîm eisiau gorffen y daith ar y brig gyda pherfformiad da yn erbyn Cymru a chreu eu darn o hanes gyda Champ Lawn,” meddai hyfforddwr y Crysau Duon, Graham Henry.

“Ond maen nhw hefyd yn gwybod y byddan nhw’n wynebu tîm Cymreig corfforol a llawn angerdd o flaen tyrfa lawn yn Stadiwm y Mileniwm, fell does ganddyn nhw ddim amheuaeth am y gwaith anferth o’u blaenau.”

Llun: Y Crysau Duon (o wefan y tîm)