Mae mam y bachgen 5 oed a fu farw oherwydd gwenwyn bwyd yn dweud ei bod am ddal ati i gael cyfiawnder iddo.
Roedd Sharon Mills yn siomedig ddoe ar ôl i Grwner fethu â chofnodi dedfryd o “farwolaeth anghyfreithlon” yn achos Mason Jones a fu farw yn 2005.
Mae hi bellach eisiau gweld newid yn y gyfraith er mwyn gostwng lefel y dystiolaeth sydd ei hangen i gyhuddo busnesau o ladd.
Yn y Cwest yng Nghasnewydd, fe benderfynodd Crwner Gwent David Bowen ar ddyfarniad naratif – dyfarniad niwtral – er ei fod wedi condemnio’r cwmni cig a achosodd yr achosion o wenwyn bwyd.
Roedd gweithredoedd William Tudor o gwmni John Tudor a’i Fab ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gyfres o “fethiannau dychrynllyd”, meddai.
Mae wedi argymell bod angen adolygiad o’r ffordd y mae deddfau diogelwch bwyd yn cael eu gweithredu a bod eisiau rhagor o ymweliadau annisgwyl gyda llefydd trin bwyd.
Torri rheolau ers blynyddoedd
Roedd Sharon Mills wedi gobeithio y byddai’r Cwest yn dweud yn glir mai’r cigydd oedd yn gyfrifol am farwolaeth ei mab.
Fe glywodd y llys ei fod wedi bod yn torri rheolau ers blynyddoedd, yn esgus mai cig oen Cymreig oedd cig o Seland Newydd ac yn gorchymyn fod cig pwdr yn cael ei droi yn ffagots.
Fe gafodd William Tudor flwyddyn o garchar yn 2007 am dorri cyfreithiau iechyd bwyd.