Mae Awdurdod S4C mewn mwy o anrhefn nag erioed gyda’r aelodau’n anghytuno a yw’r Cadeirydd wedi ymddiswyddo ai peidio.

Neithiwr, fe gyhoeddodd yr Awdurdod ddatganiad yn dweud bod John Walter Jones yn mynd ar unwaith, ond mae’n ymddangos ei fod yntau’n dweud y bydd yn aros tan y gwanwyn.

Fe ddaeth y datganiad yn ymateb i straeon ar y BBC bod John Walter Jones wedi ymddiswyddo ond wedyn wedi newid ei feddwl.

Dewis Is-gadeirydd

Mae’r Awdurdod yn dweud eu bod wedi dewis y cyfrifydd Rheon Tomos yn Is-Gadeirydd i arwain y corff tros dro.

Mae’r datganiad hefyd yn gwneud yn glir nad yw’r Awdurdod yn erbyn trafod gyda’r BBC – ar ôl i’r Llywodraeth orchymyn bod arian S4C yn dod trwy law’r Gorfforaeth.

Roedd grŵp o ASau Ceidwadol wedi awgrymu bod rhai o aelodau’r Awdurdod yn erbyn gwneud hynny ac yn ceisio atal trafodaethau.

‘Bisâr’

Fore ddoe, roedd y grŵp wedi galw ar i holl aelodau’r Awdurdod ymddiswyddo – heblaw am y Cadeirydd.

Mae’r datblygiadau eisoes wedi cael eu galw’n “bisâr” gan un o’r grŵp, AS Bro Morgannwg, Alun Cairns.

Mae’n ymddangos mai’r Adran Ddiwylliant yn Llundain fydd yn gorfod ceisio datrys yr helynt – nhw sy’n gyfrifol yn y pen draw am benodi’r Cadeirydd ac aelodau’r Awdurdod.

Datganiad S4C yn llawn

Cadarnhaodd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, i’w gyd-aelodau ar yr Awdurdod nos Fawrth (23 Tachwedd) ei fod wedi cyflwyno’i ymddiswyddiad i’r Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae hyn yn dilyn cyfarfod rhyngddo a’r Ysgrifennydd Gwladol ar 16 Tachwedd.

Dywedodd Mr Jones wedyn wrth yr Awdurdod fod yr ymddiswyddiad yn effeithiol yn syth.

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod S4C heno, “Nid ydym wedi derbyn cadarnhad o’r penderfyniad oddi wrth y DCMS ac nid ydym wedi clywed gan Mr Jones ers y cyfarfod neithiwr.”

Yn dilyn cyhoeddiad John Walter Jones, bu’r Awdurdod yn ystyried y ffordd orau o symud ymlaen er mwyn sicrhau dilyniant ac arweiniad i’r Sianel ac apwyntiwyd is-gadeirydd. Etholwyd Rheon Tomos yn unfrydol fel is-gadeirydd yr Awdurdod.

Dywedodd y llefarydd, “Mae’r Awdurdod wedi bod yn gytûn erioed ynghylch pwysigrwydd trafodaethau gyda DCMS a’r BBC ynglŷn â chyfeiriad S4C yn y dyfodol. Cynhaliwyd cyfarfodydd eisoes gyda DCMS ac Ymddiriedolaeth y BBC a chynhelir cyfarfod arall wythnos nesaf.”

Stori neithiwr fan hyn
Sylwadau o’r blog fan hyn