Mae chwaraewr rygbi wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl i flaenwr Llanelli a’r Scarlets, Gavin Quinnell golli llygad yn ystod gêm yn erbyn Cross Keys mis diwethaf.
Fe ddywedodd Heddlu Gwent bod y dyn 26 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau barhau.
Roedd Gavin Quinnell, mab cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru a’r Llewod, Derek Quinnell a brawd Scott a Craig Quinnell, newydd ail ymuno gyda rhanbarth y Scarlets wedi dwy flynedd yng Nghaerwrangon a dwy flynedd yn yr Eidal gyda Viadana.
Bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth frys ar ei lygad yn dilyn y digwyddiad yng nghlwb rygbi Cross Keys yn y geaxm yn erbyn Llanelli.
Ond roedd meddygon yn methu achub golwg un llygad a bu’n rhaid iddo ymddeol o chwarae rygbi proffesiynol.
“R’yn ni’n parhau i weithio’n agos gyda Llanelli, Cross Keys ac Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â’r digwyddiad ar 2 Hydref,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.