Mae asgellwr Seland Newydd, Joe Rokocoko, wedi dweud ei fod yn disgwyl i Gymru chwarae gydag angerdd dydd Sadwrn.

Dim ond buddugoliaeth dros dîm Warren Gatland yn Stadiwm y Mileniwm sy’n rhwystro’r Crysau Duon rhag cipio trydedd Gamp Lawn mewn chwe blynedd ar daith yr hydref.

Dyw Seland Newydd ddim wedi colli i un o’r gwledydd cartref ers i Loegr eu maeddu nhw 15-13 yn Wellington ychydig fisoedd cyn i dîm Clive Woodward ennill Cwpan y Byd 2003.

Bellach, cyn-hyfforddwr Cymru, Graham Henry, sy’n arwain y Teirw Duon ac, er ei fod wedi colli ddwywaith yn erbyn Ffrainc, dyw yntau ddim wedi colli yn erbyn yr un o’r gwledydd cartref yn ei amser wrth y llyw.

Er hynny, diwethaf, dywedodd Rokocoko bod chwarae yn erbyn timau hemisffer y gogledd yn dasg anodd.

Sylwadau Rockocoko

“Dyw hi byth yn hawdd. Mae hi bob tro’n her sicrhau’r Gamp Lawn ac r’yn ni’n hoff o heriau,” meddai’r asgellwr.

“Mae’n anodd i dîm y Crysau Duon ar deithiau fel hyn oherwydd bod pob un o’r timau’n chwarae ar eu gorau yn ein herbyn ni. R’yn ni’n disgwyl llawer o angerdd gan Gymru ar y penwythnos.

“Doedd Iwerddon ddim wedi chwarae’n dda yn erbyn Samoa’r wythnos cyn ein hwynebu ni – ond fe chwaraeodd y Gwyddelod yn dda yn ein herbyn, ac r’yn ni’n disgwyl yr un peth gan Gymru hefyd.”

Llun: Joe Rockocoko (CCA 2.0)