Roedd cigydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi gwerthu cig a ddylai fod wedi cael ei fwyta flynyddoedd ynghynt, clywodd cwest heddiw.
Roedd y cwest yn ymchwilio i farwolaeth plentyn pump oed a laddwyd gan achos difrifol o wenwyn bwyd E.coli yng Nghymoedd de Cymru bum mlynedd yn ôl.
Fe fu farw Mason Jones, o’r Deri, ger Bargoed, ar ôl cael ei wenwyno gan y salwch a effeithiodd ar 44 o ysgolion a channoedd o blant.
Yr achos ym mis Medi 2005 oedd yr ail fwyaf o’i fath yn ngwledydd Prydain ar y pryd.
Roedd mam Mason Jones yn y cwest yng Nghasnewydd.
Cig ‘yn troi’n felyn’
Clywodd y Crwner bod cwmni John Tudor and Son, o Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, yn dosbarthu cig i ddwsinau o ysgolion a thai hen bobol.
Cafodd pennaeth y cwmni, William John Tudor, 58, o’r Bont-faen, ei garcharu am flwyddyn yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Medi 2007.
Plediodd William John Tudor yn euog i chwe chyhuddiad o roi bwyd anniogel ar y farchnad ac o fethu â rhwystro’r bwyd rhag cael ei halogi.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Paul Burke, ei fod wedi cynnal ymchwiliad troseddol i’r cwmni ac wedi cyfweld sawl un ynglŷn â safon y glendid yno.
“Fe ddywedodd sawl person wrtha’i bod cig oedd yn drewi wedi ei roi i mewn ffagot. Pan oedd y cig yn troi’n felyn roedd o’n dweud wrthyn nhw i’w dorri lan a’i roi i mewn i ffagots.”
Roedd y cwmni hefyd wedi prynu cig dafad o Seland Newydd a’i werthu dan enw cig oen Cymreig.