Mae chwaraewr canol cae Cymru, Aaron Ramsey wedi chwarae ei hanner cyntaf o bêl-droed ers torri ei goes yn ddrwg ddechrau eleni.
Fe chwaraeodd y Cymro Cymraeg ifanc am 45 munud i ail dîm Arsenal mewn gêm ganol dydd heddiw.
Mae wedi bod ar yr ystlys ers naw mis ar ôl torri ei goes mewn tacl erchyll gan amddiffynnwr Stoke, Ryan Shawcross, ym mis Chwefror.
Roedd rheolwr Arsenal, Arsene Wenger, wedi dweud yn gynharach yn y mis y byddai Ramsey ar gael i chwarae i’r ail dîm erbyn diwedd Tachwedd.
Fe ddechreuodd Ramsey yng nghanol y cae i ail dîm Arsenal yn erbyn ail dîm Wolves gan eu helpu i ennill 2-1.
Addawol iawn
Yn ôl sylwebwyr, roedd perfformiad y Cymro yn un addawol iawn gan ystyried ei fod wedi bod allan o’r gêm am gyfnod sylweddol.
Roedd ei basio a chyffyrddiadau’n effeithiol ac roedd yn brysur iawn yn rhoi pwysau ar chwaraewyr Wolves.
Fe allai hyd yn oed fod wedi sgorio gydag ergyd isel am gornel y rhwyd ond fe arbedodd golwr Wolves.
Yn amlwg roedd yn dechrau blino erbyn diwedd yr hanner, ond fe fydd pawb yn Arsenal yn hapus iawn gyda’i gyfraniad.
Fe fydd y newyddion yma’n hwb mawr i Gymru sydd wedi gweld ei eisiau’n fawr yn ystod ymgyrch rhagbrofol Ewro 2012.
Mae Arsenal yn dangos fideo o Ramsey’n ymarfer a chwarae – fan hyn