Mae nifer o drafferthion S4C yn deillio o broblemau mewnol Awdurdod y sianel, yn ôl cyn-reolwr BBC Cymru.

“Mae Awdurdod S4C wedi colli pob hygrededd,” meddai Geraint Talfan Davies wrth Golwg 360 heddiw, ar ôl bod yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad ynglŷn â dyfodol S4C.

“Mae’r Awdurdod wedi cael ei anwybyddu gan weinidogion,” meddai, “ac mae’r ymddiriedaeth wedi ei golli.”

Roedd y tri a fu’n rhoi tystiolaeth o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig heddiw yn unfryd eu barn fod Awdurdod S4C yn rhannol gyfrifol am argyfwng presennol y sianel, yn ôl Geraint Talfan Davies.

Roedd ef, Ron Jones o gwmni teledu Tinopolis, ac Ian Hargreaves o Brifysgol Caerdydd, yn rhoi tystiolaeth o flaen y pwyllgor o Aelodau Seneddol sydd wrthi’n ystyried dyfodol y sianel.

Argymhellion Geraint Talfan Davies

Ar ôl rhoi tystiolaeth, fe ddywedodd Geraint Talfan Davies wrth Golwg 360 nad oedd e’n credu mai argymhellion yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt oedd “y ffordd orau” i drefnu’r bartneriaeth y mae’r Llywodraeth yn mynnu ei chael rhwng y BBC a’r sianel.

Roedd angen “strwythur symlach, llai costus, a gwell gwarant o annibyniaeth” ar S4C, meddai. “Mae tipyn o ffordd i fynd i ddod o hyd i’r patrwm delfrydo.”

Yn ôl cynllun y Llywodraeth, fe fyddai nifer o fyrddau rheoli’n gweithredu ar wahân – yn ôl Geraint Talfan Davies, fe fyddai’n well mynd yn ôl i’r drefn yn yr 1990au pan oedd cynrychiolydd o’r BBC ar fwrdd ymddiriedolaeth S4C ei hun.

“Fe fyddai mynd yn ôl i sefyllfa’r 90au a chael cynrychiolaeth o’r BBC ar fwrdd ymddiriedolaeth S4C yn symlach a llai costus na’r strwythur sy’n cael ei drafod nawr.”

Cytundeb S4C a’r BBC yn ‘ddiffygiol’

Roedd yr arbenigwr ar ddarlledu yng Nghymru, Ian Hargraves, hefyd wedi beirniadu’r modd y mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu rhoi S4C dan adain y BBC.

Dywedodd yr Athro Ian Hargreaves, o Ysgol y Cyfryngau Prifysgol Caerdydd, wrth y Pwyllgor Dethol fod yna “ddiffygion mawr yn y cytundeb” a bod angen adolygiad brys i drafod y mater.

Ychwanegodd bod S4C wedi “dioddef toriadau mawr” ac y byddai hynny’n siŵr o effeithio ar safon y rhaglenni.

Cynigion y Llywodraeth

Fis diwethaf y datgelodd Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, y byddai S4C yn mynd dan adain y BBC o 2013 ymlaen.

O dan y trefniant newydd, fe fydd £76 miliwn o arian y drwydded deledu’n cael ei dynnu oddi ar y BBC a’i ddefnyddio i dalu am S4C ond bydd y BBC yn rhoi trwydded i’r sianel newydd ac yn rhannu’r cyfrifoldeb am ei strategaeth a’i chynnwys yn gyffredinol.

Roedd yna feirniadaeth hefyd ar S4C, wrth i Ron Jones ddweud bod y sianel wedi tyfu’n rhy fawr ac angen iddi gael ei rheoli’n fwy effeithiol.