Mae bachwr Seland Newydd, Keven Mealamu, wedi dweud y bydd rhaid iddo fod yn fwy gofalus wrth iddo ddychwelyd i wynebu Cymru yn dilyn gwaharddiad.
Methodd Mealamu y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn yr Alban ac Iwerddon ar ôl cael ei wahardd am bythefnos am daro capten Lloegr, Lewis Moody yn ei ben.
Daeth gwaharddiad y bachwr i ben ddoe ac mae disgwyl iddo gael ei ddewis yn nhîm y Crysau Duon fydd yn wynebu Cymru yn Stadiwm y Mileniwm dros y penwythnos.
Dywedodd Mealamu na fyddai’n newid steil ei chwarae ond y bydd rhaid iddo fod ychydig yn fwy gofalus.
“Fe fydd hynny yng nghefn fy meddwl ond fe fydd rhaid i mi glirio pobol o’r ryc os ydyn nhw yn y ffordd neu yn arafu’r bêl,” meddai Mealamu.
“Mae’n rhaid bod yn gorfforol er mwyn symud pobol, ond fe fydd rhaid i mi fod ychydig yn fwy gofalus hefyd.”