Mae ymosodwr Caerdydd Craig Bellamy yn gobeithio y bydd yr Adar Glas yn dychwelyd i frig tabl y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth yn erbyn QPR dros y penwythnos.
Fe fydd tîm Dave Jones yn gobeithio taro ‘nôl ar ôl colli dwy gêm gartref yn olynol yn erbyn Abertawe a Nottingham Forest, a disgyn i’r ail safle yn y tabl.
Bydd angen Adar Glas wella’n sylweddol os ydyn nhw am faeddu tîm Neil Warnock, sydd ar dop y tabl, yn Loftus Road ddydd Sadwrn.
“Mae’n gêm fawr yn erbyn QPR ac mae’n gyfle i ni ddychwelyd i frig y tabl,” meddai Bellamy wrth bapur y Western Mail.
“Roedden ni wedi llithro ychydig yn erbyn Nottingham Forest. Doedden ni ddim ar ein gorau yn ystod yr ymarferion ac roedd hynny’n amlwg ar y diwrnod.”
Targedu’r uwch gynghrair
Mae Bellamy yn awyddus i weld Caerdydd yn ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair a chyrraedd lefel clybiau fel Fulham a Wigan.
“Does gennym ni ddim yr adnoddau sydd gan rai o glybiau’r Uwch Gynghrair, ond ein bwriad ni yw cyrraedd lefel timau megis Fulham,” meddai’r Cymro.
“D’yn ni byth yn mynd i allu cyrraedd lefel Man City, ond mae Fulham a Wigan yn bosib.
“R’yn ni eisiau bod yn y clwb cyntaf o Gymru i chwarae yn yr Uwch Gynghrair ac fe fyddai hynny’n fuddugoliaeth i’r wlad gyfan.”
Cyfaddefodd Bellamy nad oedd o wedi cyrraedd ei orau, ar ôl sgorio dwy gôl mewn naw ymddangosiad i’r clwb y tymor hwn.
“Rwy’n mwynhau gyda Chaerdydd ac rwy’n ceisio cyrraedd y safon uchaf. Dim ond mater o amser yw hi gan fod yna gymaint o gemau i’w chwarae yn y Bencampwriaeth.”