Mae’r Fatican wedi awgrymu bod y Pab o blaid caniatáu i ddynion neu ferched ddefnyddio condoms er mwyn osgoi lledaenu HIV.
Roedd y Pab wedi awgrymu bod defnyddio condom yn gallu dangos agwedd moesol a chyfrifol tuag at ryw ymysg puteiniaid gwrywaidd.
Ond dywedodd llefarydd ar ran y Fatican, y Parchedig Federico Lombardi, ei fod wedi holi’r Pab heddiw a oedd yn cyfeirio at ddynion yn unig gyda’i sylwadau.
Ymateb y Pab oedd nad oedd hynny’n bwysig, ac mai’r peth pwysig oedd cymryd cyfrifoldeb, a chymryd bywydau eraill i ystyriaeth.
Cadarnhaodd y Parchedig Lombardi fod ei sylwadau’n berthnasol “os ydych chi’n ddyn, yn ddynes, neu’n drawsrywiol”.