Mae haciwr cyfrifiadurol a lwyddodd i gael gafael ar wybodaeth a lluniau personol wrth weithio o stafell fyw ei fam wedi cael ei garcharu am 18 mis heddiw.

Roedd Matthew Anderson, 33 oed, o Keith yn yr Alban, yn rhan o rwydwaith rhyngwladol o hacwyr soffistigedig, clywodd y llys.

Wrth weithio fel arbenigwr diogelwch cyfrifiadurol, fe ddefnyddiodd Matthew Anderson ei wybodaeth i dargedu busnesau ac unigolion gyda degau o filiynau o e-byst spam oedd yn cario firws cyfrifiadurol cudd.

Unwaith oedd y firws yn cydio, roedd o’n gallu rheoli gwe-gamerau y cyfrifiaduron o dŷ gwledig ei fam yn yr Alban er mwyn gweld y tu fewn i gartrefi pobol.

Daeth heddlu o hyd i ffeiliau yr oedd o wedi eu cadw ar ei gyfrifiadur personol, oedd yn cynnwys lluniau o ferch mewn gwisg ysgol, llun teuluol o fam gyda baban newydd-anedig yn yr ysbyty, a lluniau personol o natur rywiol.

Pleidiodd Matthew Anderson yn euog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn yn Llys y Goron Southwark yn Llundain heddiw.
Cael ‘pleser wrth ysbïo’

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Geoffrey Rivlin QC fod troseddau Matthew Anderson ar raddfa “na allwn ni bron a’u dychmygu”.

Dywedodd mai ei gymhelliad oedd “y pleser a’r boddhad o ysbïo ar fywydau personol gymaint o bobol, a’r teimlad o rym yr oedd gwneud hynny’n ei roi iddo”.

Doedd dim tystiolaeth iddo ddefnyddio’r wybodaeth er mwyn twyllo ei ddioddefwyr, yn ôl y Barnwr.

Ond dywedodd y Barnwr “mai dim ond dedfryd o garchar sydd yn addas ar gyfer trosedd o’r fath”.