Mae Aung San Suu Kyi, arweinydd yr ymgyrch dros ddemocratiaeth yn Burma wedi dweud ei bod hi’n “hapus iawn” ar ôl gweld ei mab am y tro cyntaf er dros ddegawd, heddiw.

Hedfanodd Kim Aris, 33 oed, sy’n byw ym Mhrydain, i Rangoon ar ôl cael fisa gan lywodraeth filwrol y wlad.

Dywedodd ei fod o wedi bod yn disgwyl yn Thailand am fisa am sawl wythnos .

Roedd dagrau yn llygaid Aung San Suu Kyi wrth iddi gyfarfod ei mab o flaen y newyddiadurwyr oedd wedi casglu yn y maes awyr.

Wrth adael y maes awyr, i ddangos ei gefnogaeth, dangosodd ei mab datw o logo plaid Aung San Suu Kyi oedd ganddo ar ei law chwith.

Cododd ei law a’i ddangos o flaen y swyddogion diogelwch oedd wedi ymgasglu yno.

Cafodd Aung San Suu Kyi, cyn-enillydd Gwobr Heddwch Nobel, ei rhyddhau 13 Tachwedd ar ôl dros saith mlynedd yn gaeth yn ei chartref.