Mae’r Crusaders wedi cadarnhau eu bod nhw wedi rhyddhau tri aelod o’u staff.

Mae hyfforddwr y tîm cyntaf, Jon Sharp wedi ei ddiswyddo gan y clwb Cymreig ar ôl ymuno yn 2009 er mwyn cydweithio gyda Brian Noble ac Iestyn Harries.

Fe gadarnhaodd y clwb bod eu Cyfarwyddwr Masnachol, Mike Turner a gofalwr am git y tîm Dai Cappell hefyd wedi gadael.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r clwb wedi cael anawsterau ariannol, gan gynnwys dyled sylweddol, sydd wedi rhoi’r busnes mewn sefyllfa amhosib,” meddai’r cyd-weinyddwr Simon Weir o gwmni O’Hara and Co.

“Mae hyn wedi ein gorfodi ni i edrych ar wahanol agweddau o redeg y clwb ac fe fu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. R’yn ni’n dymuno’n dda i Jon, Mike a Dai i’r dyfodol.”

Cafodd gorchymyn i ddirwyn y clwb i ben ei wrthod yn y llys yn gynharach yn y mis ar ôl i’r clwb gyhoeddi eu bod nhw wedi talu’r ddyled, ond fe aeth y Crusaders i ddwylo’r gweinyddwyr dyddiau’n ddiweddarach.

Fe allai’r problemau ei gwneud hi’n anoddach i’r clwb ennill trwydded i barhau i chwarae yn y Super League ar ôl tymor 2011.

Mae’r Crusaders hefyd yn wynebu colli pwyntiau ar ddechrau’r tymor newydd ar ôl mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r gweinyddwyr wedi dweud y bydden nhw’n ceisio dod o hyd i berchnogion newydd cyn y tymor nesaf.