Fe fydd y Tywysog William yn priodi Kate Middleton ddydd Gwener, 29 Ebrill yn Abaty San Steffan, cyhoeddwyd heddiw.

Y Teulu Brenhinol, a theulu Kate Middleton, fydd yn talu am y briodas, medden nhw. Bydd arian o’r pwrs cyhoeddus yn mynd tuag at gostau eraill fel diogelwch.

Fe fydd diwrnod y briodas hefyd yn troi yn ŵyl banc.

Dywedodd ysgrifennydd y Tywysog William, Jamie Lowther-Pinkerton, bod y pâr priod wedi dewis Abaty San Steffan am ei “brydferthwch anhygoel”, a’i gysylltiad hanesyddol gyda’r Teulu Brenhinol.

“Mewn sawl ffordd dyna yw capel y Teulu Brenhinol,” meddai wrth y wasg.

Yr abaty oedd y man lle y cynhaliwyd angladd mam y Tywysog William, pan oedd o’n 15 oed.

Dywedodd Jamie Lowther-Pinkerton bod y Tywysog William yn ymwybodol iawn o’r cyni ariannol ym Mhrydain.

“Mae pawb eisiau gwneud yn siŵr fod yna falans rhwng cynnal diwrnod hwyliog a’r sefyllfa economaidd anodd,” meddai.

Dywedodd bod y Tywysog William a Kate Middleton wedi mynd ati i drefnu’r briodas ac wedi rhoi “gorchmynion cadarn iawn i ni”.

Mae Deon San Steffan, y Parch Dr John Hall, wedi croesawu’r penderfyniad i gynnal y briodas yn yr abaty.

“Rydym ni’n bles iawn eu bod nhw wedi dewis Abaty San Steffan ar gyfer eu priodas ac yn edrych ymlaen at y cynlluniau manwl ar gyfer beth fydd yn ddigwyddiad mawr a hapus i’r cwpwl, eu teuluoedd a’u ffrindiau, i’r wlad a’r Gymanwlad a phawb sy’n dymuno’n dda ledled y byd.”