Mae dyfodol y Cann Office wedi’i ddiogelu ar ôl i reolwr y dafarn gadarnhau wrth Golwg360 ei fod wedi prynu’r ganolfan ddiwylliannol ar ôl i’r perchnogion dderbyn ei gynnig neithiwr.
Caeodd y dafarn a gwesty enwog ym mhentref Llangadfan ddydd Sul diwethaf ar ôl 700 mlynedd.
Roedd Emyr Wyn Jones wedi penderfynu cau’r dafarn, a sefydlwyd yn 1310, oherwydd bod rhent y perchnogion, Bragdy Admiral Taverns, “yn rhy uchel”.
Roedden nhw’n gofyn £28,000 y flwyddyn am rentu’r adeilad, meddai.
“Dw i dal mewn sioc am y peth a ddim yn coelio ei fod o wedi digwydd,” meddai Emyr Wyn Jones cyn dweud fod Bragdy Admiral Taverns wedi derbyn ei gynnig am “saith o’r gloch neithiwr”.
“Roedd Admiral yn pryderu nad oedd neb yno i gymryd drosodd ac fe fyddai’n costio arian iddyn nhw symud popeth,” meddai cyn dweud mai “busnes fel arfer” fydd hi yn y Cann Office ar ôl i’r gwaith papur gael ei gwblhau.
Mae Emyr Wyn Jones yn gobeithio y bydd yn gallu ail agor tua mis Chwefror nesaf.
“Roedd ’na ddathlu neithiwr ac mae’r staff yn falch iawn ein bod ni’n ail ddechrau’r busnes,” meddai.
“Roedd hi’n bryd i’r dafarn wledig fynd o ddwylo dynion busnes ac yn ôl i ddwylo preifat.”
“Mae’n bryd dangos iddyn nhw fod angen callio a dechrau deall sut mae cefn gwlad yn gweithio.”