Fe fydd pob un o gynghorau Cymru, heblaw am un, yn wynebu toriadau yn eu cyllidebau’r flwyddyn nesaf, cyhoeddwyd heddiw.

Bydd cyllidebau’r cynghorau yn disgyn 1.4% ar gyfartaledd. Bydd cyllidebau 14 cyngor yn disgyn 1.7%.

Ceredigion sy’n wynebu’r toriad lleiaf, sef 0.7%, tra y bydd Caerdydd yn cael cynnydd o 0.1% y flwyddyn ariannol nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, bod y gyllideb yn ddigonol er mwyn gwarchod ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

Roedd y toriad 1.4% yn cymharu’n ffafriol gyda’r toriad o 2.3% yn Lloegr, meddai. Fe fydd yna hefyd gynnydd o 0.2% a 1.3% yn 2012-13 a 2013-14.

“Mae’r nawdd ydw i’n ei gyhoeddi heddiw yn heriol o ganlyniad i’r toriadau mawr orfodwyd ar Lywodraeth y Cynulliad gan Lywodraeth San Steffan,” meddai.

“Serch hynny mae’r toriadau’n adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad, sef diogelu ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

“Mae o’n setliad teg o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol.

“Mae gan awdurdodau lleol nifer o benderfyniadau anodd o’u blaenau nhw. Mae’r her o ddarparu gwasanaethau da gyda llai o arian yn parhau.”

‘Y canlyniad orau posib’

Dywedodd y Cynghorydd John Davies, pennaeth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y byddai cynghorau yn ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r toriadau diweddaraf.

“Mae yna fwlch rhwng y toriadau ariannol a’r costau uwch a mwy o alw am wasanaethau,” meddai.

“Mae’n bwysig bod y rheini sy’n agored i niwed mewn cymdeithas yn cael blaenoriaeth, yn enwedig ar ôl y newidiadau i’r system budd-daliadau fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill,” meddai.

“Mae traean o weithlu Cymru yn gweithio yn y sector gyhoeddus felly fe allai ein cymunedau gael eu taro’n galed unwaith eto.”

Ychwanegodd y byddai cynghorau yn gwneud eu gorau i osgoi gorfod codi treth cyngor.

“Er nad oes yna’r arian i rewi treth cyngor yng Nghymru fe fydd cynghorau yn gwneud eu gorau i leihau costau,” meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Rodney Berman, arweinydd cyngor Caerdydd a llefarydd cyllidol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mai dyma oedd y “canlyniad orau posib yn yr hinsawdd economaidd bresennol”.

“Serch hynny dyma’r setliad ariannol anoddaf i lywodraeth leol ers sawl blwyddyn,” meddai.