Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Philip Hammond, wedi dweud heddiw ei fod yn hyderus fod digon o raean ar gael os bydd gaeaf caled eto eleni.
Dywedodd fod peth o’r graean wedi ei fewnforio o dramor a bod stoc ychwanegol ar gael pe bai cynghorau’n brin.
Mae disgwyl i’r eira mawr cyntaf ddisgyn dros rannau o Brydain erbyn y penwythnos.
“Rydw i’n meddwl y byddwn ni’n gallu ymdopi. Rydw i’n eithaf hyderus y byddwn ni’n iawn,” meddai Philip Hammond mewn cyfweliad ar raglen Daybreak ar ITV.
Dywedodd ei bod hi’n ddrud iawn mewnforio graean o dramor, a bod angen i’r cwmnïau sy’n gwerthu graean yng Nghymru gynhyrchu mwy yn y dyfodol.
Ond yn ôl Philip Hammond, os bydd cynghorau yn mynd i drafferthion, “fe allwn ni helpu”.
Graean wrth gefn
Mae’r llywodraeth hefyd wedi argymell y dylai awdurdodau ffyrdd lleol gadw o leiaf 12 diwrnod o raean yn wrth gefn rhag ofn fod yna eira trwm.
Daw’r cyngor yn dilyn problemau mawr ddechrau’r flwyddyn, pan nad oedd digon o raean ar ôl i gadw rhai ffyrdd ar agor.
Dywedodd llywydd yr AA, Edmund King, ei fod o’n “croesawu argymhellion y llywodraeth”.
“Dim ond chwe diwrnod o gyflenwad wrth gefn oedd gan gynghorau’r llynedd, ac fe achosodd hynny broblemau mawr ar y ffyrdd,” meddai.
Ond roedd llywydd yr AA yn pryderu na fyddai yna ddigon o raean ar gael i gwrdd â gofynion pob un o’r cynghorau lleol.
Maen nhw dal bron i filiwn o dunnelli’n brin o’r 3.3 miliwn tunnell sydd ei angen arnyn nhw, meddai.
“Mae Asiantaeth y Priffyrdd eisoes wedi casglu 250,000 tunnell o raean, er mwyn bod yn saff,” meddai.
Ond rhybuddiodd Edward King na ddylai cynghorau lleol “ddibynnu arnyn nhw os ydi pethau’n mynd yn ffradach”.