Mae Golwg360 ar ddeall fod dau o aelodau Gwibdaith Hen Fran ar fin gadael y band.

Mae’n debyg mai Paul Thomas a Robert Ifan Buckley yw’r ddau sy’n ystyried rhoi’r gorau iddi. Fe fydd y band yn cwrdd ddiwedd yr wythnos er mwyn trafod y dyfodol.

Mae’r ddau aelod arall, Philip Lee Jones a Gethin Thomas, yn bwriadu dal ati.

‘Mynd yn ormod’

Dywedodd Robert Buckley wrth Golwg360 bod gweithio drwy’r wythnos a pherfformio gigiau ar y penwythnos wedi mynd yn ormod iddo.

“Mae gadael yn gam mawr – ond dw i’n gweithio mewn busnes teuluol – cwmni toeau llechi,” meddai’r chwaraewr bas dwbl.

“Dw i wedi bod yn gweithio yno ers pan o’n i’n 16 oed – mae dad yn 64 rŵan felly mae’n rhaid i fi wneud mwy.”

Byddai’n “lot gwell” ganddo “wneud miwsig ond does yna ddim digon o bres ynddo”, meddai.

Dywedodd bod rheolau newydd y corff sy’n dosbarthu arian i gyfansoddwyr, y PRS, wedi rhoi mwy o straen ariannol ar y band. Mae’r taliadau i gyfansoddwyr a pherfformwyr Cymraeg wedi disgyn yn sylweddol.

Gormod o lwyddiant?

“Alla’ i ddim delio efo gweithio drwy’r wythnos o 9 tan 5 a gwneud o leiaf dwy gig ar y penwythnosau. Rydan ni wedi gwneud 100 gig dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Y broblem ydi – rydan ni wedi bod mor llwyddiannus, does dim amser i fwynhau’r miwsig dim mwy. Mae’n waith caled ofnadwy.

“Dw i heb weld fy ffrindiau ers blynyddoedd – pwy ydi fy ffrindiau? Dw i heb gael amser efo nhw – mae gen i gariad hefyd …”

Dywedodd ei fod yn “edrych ymlaen” i jamio ar ei ben ei hun yn ystod y penwythnos a gweithio ar brosiectau llai gyda  band arall y mae’n rhan ohono.

Er bod y cyfnod gyda Gwibdaith Hen Fran yn “gyfnod hapus” dywedodd nad yw’r band wedi datblygu ers tair blynedd oherwydd “diffyg pres ac amser”.

‘Dim ffrae’

Dywedodd Phil Lee nad oedd yn gallu dweud dim byd cadarn tan i’r band drafod y dyfodol ddiwedd yr wythnos hon. Bydd mwy i’w ddweud yr wythnos nesaf, meddai.

Hyd yn oed os yw dau aelod yn gadael, dywedodd mai’r “bwriad yw parhau” gyda band Gwibdaith Hen Fran.

Doedd yna ddim ffrae o fewn y band, meddai.