Mae dyn 61 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio mam-gu ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i’w chorff mewn pentref yn Sir Gâr.
Dywedodd yr heddlu y bydd Dewi John Evans o Bontyberem yn cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn marwolaeth Jackie Evans ar 11 Tachwedd.
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe yn hwyrach y mis yma.
Daethpwyd o hyd i Jackie Evans, 57 oed, gyda chlwyfau trywanu ar ei chorff ar ôl i’r heddlu gael eu galw i ardal Maesyfelin y pentref.