Mae yna ansicrwydd a fydd y cynllun i drydanu’r rheilffordd rhwng Abertawe a Paddington yn mynd yn ei flaen ar ôl i’r Prif Weinidog awgrymu bod y llywodraeth yn ystyried opsiynau eraill.

Wrth siarad gyda newyddiadurwyr dywedodd David Cameron eu bod nhw’n parhau i “astudio’r mater yn fanwl iawn”.

Mae disgwyl cyhoeddiad ynglŷn â dyfodol y prosiect dydd Iau.

“Mae’n rhaid bod yna achos busnes, economaidd ac amgylcheddol da,” meddai David Cameron.

“Allech chi ddim cytuno i brosiectau os nad ydi hynny’n wir, ond mewn gwirionedd rydym ni’n ystyried a allen ni ddatrys y broblem yma drwy ei ehangu?

“A fydd hi’n bosib edrych ar brosiect mwy neu brosiect gwahanol a fyddai’n dda i fusnesau? Felly rydym ni’n edrych yn galed iawn ar wneud i hynny ddigwydd.”

Yn yr un gynhadledd i’r wasg wfftiodd yr awgrym bod Cymru wedi ei thrin yn annheg gan Lywodraeth San Steffan.

“Mae cyllideb Cymru wedi syrthio, ond yn llai na’r cyfartaledd ar gyfer adrannau eraill y Llywodraeth,” meddai.

“Rydym ni wedi darparu cyllideb fyddai’n caniatáu i Lywodraeth y Cynulliad gynyddu’r gwario ar y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru.”

Dywedodd Plaid Cymru bod trydanu’r rheilffordd hyd at Abertawe yn “angenrheidiol” i economi Cymru.

Maen nhw’n credu y byddai trydanu’r rheilffordd hyd at Gaerdydd yn unig yn gadael gorllewin Cymru mewn gwaeth sefyllfa, gan y byddai’n rhaid i deithwyr newid trenau.