Fe fydd ‘Elf-steddfod’ yn cael ei chynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn, 11 Rhagfyr, yn y gobaith o dorri’r record byd am y nifer mwyaf o gorachod Nadoligaidd yn yr un lle ar yr un pryd.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio denu dros 620 o gorachod i’r ŵyl, er mwyn torri record Efrog Newydd lle daeth 607 o gorachod ynghyd ym mis Rhagfyr y llynedd (dde).

Yn ôl y trefnwyr fe fydd 700 o hetiau corachod yn cael eu darparu. Yr oll sydd rhaid i bobol ei wneud yw dod wedi eu gwisgo mewn siwmper liw coch neu wyrdd.

Ond mae croeso iddyn nhw fynd ati i greu eu gwisgoedd Nadoligaidd eu hunain hefyd, meddai’r trefnwyr, ac fe fydd gwobr ar gael i’r corrach sydd wedi’i wisgo orau.

(Mwy o straeon Nadolig yn adran arbennig Golwg 360)

Digon i ddifyrru’r corachod bach

Bydd nifer o weithgareddau i’r plant ar gael yn yr Elf-steddfod, a fydd yn cael ei chynnal yng nghanol y dref, fel gwneud ac addurno cacennau bach a chreu lampau Nadoligaidd.

Yn llyfrgell y dref bydd cyfle i blant glywed straeon Nadolig, ysgrifennu barddoniaeth a chreu darluniau tymhorol.

Dywedodd y trefnwyr eu bod nhw’n disgwyl i’r dref gyfan ymuno yn yr hwyl, wrth i ganu ac adloniant lenwi’r strydoedd.

Maen nhw hefyd yn annog staff y siopau lleol i wisgo fel corachod Nadoligaidd.

Yn ôl un o’r trefnwyr, Rhiannon Kingsley, y bwriad yw “cynnal digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n llawn sbort ac yn wahanol i unrhyw beth arall yn ne Cymru, ac sydd yn cynnal hwyl yr ŵyl.”

Mae disgwyl i’r corachod Nadoligaidd gyrraedd Canol y Dref erbyn 2pm, yn barod ar gyfer y cyfri hollbwysig.

Gall unrhywun sydd am wybod mwy am y digwyddiad fynd i wefan Digwyddiadau Pen-y-bont ar Ogwr, neu gysylltu â’r trefnwyr ar 01656815225.