Casgliad o’r jôcs Nadolig gwaetha’ posib yn arbennig ar eich cyfer…
Be sy’n ddu, gwyn, ac yn difaru yn y bore?
Pen-mawr-gwin
Beth sy’n ddu, gwyn, a gyda trwyn sy’n sgleinio’n goch?
Mŵ-dolff
Pwy sy’n dwad dros y Bryn?
Neb, mae Bryn Terfel yn rhy dal
Pa greadur sy’n hoffi cystadlu yn yr Elf-steddfod?
Y côr-ach
Pwy sy’n hel clecs ar draws y byd?
Sïon Corn
Pam nad ydi Santa yn hoffi mynd i lawr simne?
Mae’n diodde o Clos-troffobia
Beth mae Sion Corn yn gwisgo ar ei drwyn wrth glirio stablau’r ceirw?
Peg y gogledd
Beth ydi enw chwaer digywilydd Siôn Corn?
Ann Rheg
Pam bod Sion Corn yn dew?
Am ei fod o’n gwneud dim byd am 364 diwrnod y flwyddyn
Beth sydd gan wleidydd gonest, cyfreithiwr caredig a Sion Corn yn gyffredin?
Does yr un o’r tri yn bodoli.
Be sydd byth yn helpu i glirio ar ôl cinio Dolig?
Y Pwdryn Nadolig
Beth sydd gan y Nadolig a gweithio i S4C yn gyffredin?
Panics munud olaf, pryder ariannol, anwybodaeth llwyr ynglŷn â beth ydach chi’n mynd i’w gael – ac mae yna o leiaf un twrci i’w baratoi erbyn dydd Nadolig.
Beth sydd gan Sion Corn a’r Tywysog William yn gyffredin?
Mae’r ddau yn cael lot o sylw am hedfan tua unwaith y flwyddyn.
Nofelau newydd ar gyfer y Nadolig gan T Llew Indiana Jones (Cyhoeddwyd gan wasg y Lol-la-la-la)
Harri Potter a’r Stafell Ddirgel
Cysgod y Batman
Mor-ladron y Caribî: Traed Mewn Cyffion
Martha, Jac a’r Saith Samurai
Un Nos Ola Death Star
Ac Yna Clywodd Sŵn y Titanic yn Suddo