Cymraes a gafodd ei magu yn Lerpwl yw enillydd Cystadleuaeth Cyfansoddi Carol S4C eleni, gyda’r garol ‘Dim ond Un’.

Yn ôl E. Olwen Jones, 74 oed, sy’n byw yn Nhalwrn, Ynys Môn, mae’r garol yn mynegi mor berthnasol yw stori’r geni i fyd yr unfed-ganrif-ar -hugain.

Fe fydd E. Olwen Jones yn derbyn £1,000 yn wobr am y garol fuddugol, yn ogystal â gweld ‘Dim ond Un’, sef deuddegfed enillydd y gystadleuaeth flynyddol, yn cael ei pherfformio yng Nghyngerdd Mil o Leisiau’r Nadolig ym Mhafiliwn Llangollen ar 12 Rhagfyr.

E. Olwen Jones – y cerddor diwyd

Yn gyn pennaeth ar Adran Gerdd y Coleg Normal ym Mangor, ac yn gyn athrawes gerdd deithiol, mae E. Olwen Jones wedi bod yn weithgar iawn ym myd cerddorol Cymru ers blynyddoedd.

Mae hi’n gyfansoddwraig adnabyddus, ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau o ganeuon i blant ac oedolion. Ond dyma’r tro cyntaf iddi ennill cystadleuaeth cyfansoddi.

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi ennill y wobr hon ac yn edrych ymlaen at y perfformiad cyntaf ym Mhafiliwn Llangollen,” meddai E. Olwen Jones, sydd wedi byw ar Ynys Môn ers dros 40 mlynedd.

“Carol draddodiadol sy’n ddwys ac yn dyner ar yr un pryd ydi ‘Dim ond Un’ ac mae’n sôn am holl ryfeddod Stori’r Geni, y doethion, y seren a’r Baban Iesu.”

Ond er mor hen yw’r hanes, mae hi’n credu fod gan y stori ei lle o hyd yn ein bywydau.

“Rwy’n credu bod Stori’r Geni yn berthnasol i gymdeithas heddiw ac mae’r garol yn mynegi hynny.”

S4C yn falch

Yn ôl Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, mae E. Olwen Jones yn “gyfansoddwraig gydnabyddedig” a dywedodd fod cael rhywun o’i phrofiad hi yn cystadlu “yn adlewyrchu pwysigrwydd y gystadleuaeth bellach.”

“Mae’r gystadleuaeth yn ei 12fed flwyddyn bellach ac mae perfformiad cyntaf y garol bob amser yn un o uchafbwyntiau Cyngerdd Mil o Leisiau’r Nadolig.”

Fe fydd uchafbwyntiau’r cyngerdd, sy’n cael ei drefnu ar y cyd rhwng S4C a’r Daily Post, yn cael ei ddarlledu ar S4C ar 21 Rhagfyr.