Mae’r canolwr, Tom Shanklin yn credu bydd Cymru yn gwneud yn iawn am berfformiadau siomedig cyfres gyda sioe dda yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn.
Fe gyfaddefodd chwaraewr y Gleision bod y tîm yn siomedig gyda’u perfformiad yn erbyn Fiji, ond mae’n credu bod wynebu’r Crysau Duon yn gyfle perffaith i daro’n ôl.
“Rwy’n credu y bydd yn brawf o gymeriad y garfan wrth arwain at gêm Seland Newydd. Mae gyda ni gyfle yn erbyn y Crysau Duon, ond yn amlwg mae’n rhaid i ni wella pethau.”
Fe fydd Cymru’n wynebu Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm gan chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yng ngemau’r hydref a’r gynta’ yn erbyn y Teirw Duon ers 1953.
Sylwadau Shanklin
“Mae’n rhaid i ni ddysgu ein gwersi dros ymgyrch yr hydref ac mae’n ymddangos mai ein problem fwya’ yw colli meddiant.
“R’yn ni’n methu mynd mwy na thri neu bedwar cyfnod o chwarae cyn i rywun gwneud pas wirion, gollwng y bêl neu golli’r meddiant”
“Allwn ni ddim adeiladu gêm os na allwn ni sicrhau’r bêl. Fe ymdrechodd y tîm yn y gêm ddiwethaf ond doedd pethau ddim yn mynd yn iawn i ni.
“Fe allen ni fod yn edrych yn ôl ar dair buddugoliaeth erbyn hyn – dim ond ambell gamgymeriad gwirion sydd wedi ein hatal.
“R’yn ni’n gwybod ein bod yn dîm da ac mae’r safon yno. Ond d’yn ni ddim yn chwarae’n iawn fel tîm.”