Mae angen i’r Deyrnas Unedig dreblu ei hymdrechion i leihau lefelau carbon er mwyn cyrraedd targedi 2050.
Mae’r elusen bywyd gwyllt, WWF, yn dweud nad yw’r rhan fwya’ o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn dod yn agos at wneud yr hyn sydd ei angen i leihau lefelau’r carbon sy’n cael ei ollwng i’r amgylchfyd.
Yn ôl y Climate Policy Tracker sy’n cael ei gynnal gan yr elusen a chwmni Ecofys, mae angen i’r rhan fwya’ o wledydd wneud tair gwaith mwy i ostwng y lefelau o rhwng 80% a 95% erbyn canol y ganrif.
Llusgo traed
Mae’r adroddiad yn archwilio holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd mewn meysydd fel trafnidiaeth, adeiladau ac ynni adnewyddadwy, gan roi gradd gyffredinol o rhwng A a G i’r gwledydd. Dim ond ‘E’ y mae gwledydd Prydain yn ei chael.
Er ei bod yn cael ‘B’ am ei Deddf Newid yn yr Hinsawdd (yr uchaf o wledydd Ewrop) mae’r adroddiad yn dweud fei bod yn llusgo y tu ôl i wledydd eraill Ewrop mewn nifer o feysydd.
Yn ôl yr adroddiad, mae angen i’r gwledydd gorau hyd yn oed ddyblu eu hymdrechion.
Gwendidau
Dyma rai o’r gwendidau, yn ôl yr adroddiad:
• Diffyg cymorth ariannol ar gyfer cynlluniau sy’n cyfuno gwres a phŵer a diffyg cymhellion digonol i ddefnyddio ceir sy’n dda i’r amgylchedd.
• Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio bod y ffocws ar orsafoedd ynni niwclear newydd yn debyg o danseilio buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, lle mae gan y DU botensial enfawr – yn enwedig ar gyfer ynni gwynt.
• Yn gyffredinol trwy Ewrop, mae effeithiolrwydd ynni, trafnidiaeth a diwydiant ar ei hôl hi.
Llun: Ynni niwclear yn tynnu sylw oddi ar ynni ‘gwyrdd’