Mae costau byw’n uwch i bobol sy’n byw yng nghefn gwlad o’i gymharu â’r trefi a’r dinasoedd, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’n honni bod teuluoedd gwledig yn gorfod gwario 10-20% yn fwy na theuluoedd sy’n byw mewn dinasoedd er mwyn cynnal safon byw dderbyniol.
Mae costau byw uwch ynghyd â chyflogau is yn gwneud byw yn y wlad yn anodd, meddai ymchwilwyr o Brifysgol Loughborough, mewn adroddiad i’r Comisiwn Cymunedau Gwledig.
“Er bod pobol yn derbyn bellach fod un o bump o deuluoedd yng nghefn gwlad yn byw mewn tlodi – dyma’r tro cyntaf yr ’yn ni wedi cael data dibynadwy i ddangos fod isafswm cost byw yn y wlad yn uwch nag yn y ddinas,” meddai Nicole Lloyd o’r Comisiwn.
“Mae’n dangos yn glir fod llawer o deuluoedd cyffredin yn brwydro i allu fforddio pethau hanfodol.”
Mae cost trafnidiaeth a phetrol ymhlith y problemau, meddai’r Comisiwn, a’r atebion yn cynnwys gwell gwasanaethau band eang a thechnoleg symudol a gwaith a gwasanaethau sy’n haws eu cyrraedd.
Yn ôl Dr Noel Smith Cyfarwyddwr yr ymchwil, mae pobol sy’n byw mewn dinasoedd yn elwa o well trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau teithio rhatach.
Yr ymchwil
Yn ôl yr ymchwil, roedd rhaid i berson sy’n byw yn y wlad ennill o leiaf 50% yn fwy na’r isafswm cyflog (£5.93) i ddal dau ben llinyn ynghyd.
Er mwyn fforddio’r safon isaf dderbyniol o fyw, roedd angen i berson rhwng £15,600 a £18,600 mewn gwahanol ardaloedd gwledig, o’i gymharu â dim ond £14,400 i bobol sy’n byw mewn dinasoedd.
Fe ddywedodd Prif Weithredwr Sefydliad Joseph Rowntree fod yr ymchwil yn pwysleisio “nad ffenomenon ddinesig yn unig yw anfantais”.
Llun: Aberdaron