Mae adroddiadau bod rhwng 60 a 70 o dai ar dân ar ynys yn Ne Korea ar ôl ymosodiad gan luoedd y Gogledd.

Mae yna sôn hefyd bod un milwr wedi marw a rhai pobol wedi eu hanafu ar ôl i Ogledd Korea danio taflegrau at ynys Yeonpyeong.

Mae honno’n union ger y ffin rhwng y ddwy wlad ac mewn ardal lle mae gwrthdaro cyson – gan gynnwys ymosodiad honedig ar un o longau’r De ynghynt eleni.

Mae’n ymddangos bod De Korea wedi tanio’n ôl.

Cymylau o fwg

Mae lluniau o’r ardal yn dangos cymylau o fwg yn codi oddi ar yr ynys yn un o’r digwyddiadau mwya’ difrifol ers blynyddoedd rhwng y ddwy wlad.

Roedd tensiwn eisoes ar gynnydd yn yr ardal ar ôl iddi ddod yn amlwg fod gan y Gogledd Comiwnyddol adnoddau newydd i gyfoethogi wraniwm ar gyfer arfau niwclear.

Yn y gorffennol – ar ôl suddo’r llong, er enghraifft – mae’r Unol Daleithiau wedi dangos ei chefnogaeth i’r De gydag arddangosfeydd o rym milwrol.

Y cefndir

Yn swyddogol, mae De Korea a’r Gogledd yn dal i fod mewn rhyfel yn erbyn ei gilydd, ers yr 1950au. Bryd hynny, dim ond cadoediad, yn hytrach na chytundeb heddwch llawn, a roddodd ben ar yr ymladd.

Dyw’r Gogledd erioed wedi derbyn y ffin rhwng y ddwy wlad – roedd honno wedi’i gosod gan y Cenhedloedd Unedig wedi’r rhyfel.

Roedd lluoedd yr Unol Daleithiau a milwyr o wledydd Prydain wedi cefnogi’r De yn yr ymladd yn yr 1950au.

Llun: Mae’r rhif 3 ar y map yn dangos ble mae ynys Yeonpyeong a pha mor agos yw hi at y ffin rhwng Gogledd a De (Amble CCA 3.0)