Mae ugain o awdurdodau lleol Cymru wedi methu â chyflawni hyd yn oed hanner y targedau ar gyfer tai i bobol gydag afiechyd meddwl.

Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae cynllunio strategol yn wael, mae yna ddiffyg gwybodaeth ac mae’r cydweithio’n wael rhwng y gwahanol wasanaethau gofal.

Er bod cyfarwyddiadau clir wedi eu rhoi gan Lywodraeth y Cynulliad, mae adroddiad yr Archwilydd yn dweud mai araf iawn yw unrhyw gynnydd.

Dim ond dau

Dim ond dau o’r 22 awdurdod lleol sydd wedi cyrraedd mwy na hanner y targedau a oedd wedi eu gosod mewn Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn 2005. Dim ond saith sydd wedi creu cynllun gweithredu.

Yn ôl yr Archwilydd, mae tai’n hanfodol yn y gwaith o helpu pobol gydag afiechyd meddwl er mwyn rhoi annibyniaeth iddyn nhw a’u helpu i fod yn rhan o’u cymunedau.

Heb gartrefi sefydlog, meddai, roedden nhw’n fwy tebyg o gael eu cau allan o gymdeithas ac o ymddwyn yn fwy peryglus eu hunain.

Beirniadu

Roedd yn feirniadol o Lywodraeth y Cynulliad am beidio â gwneud digon i fonitro’r gwaith ac am ddiffyg gwybodaeth i gymdeithasau tai, ond roedd y feirniadaeth benna’ ar yr awdurdodau lleol.

“Er gwaetha’r targedau clir, mae’n siomedig bod cyn lleied o gynnydd wedi’i wneud dros y pum mlynedd diwethaf,” meddai’r Archwilydd, Huw V Thomas.

“O ystyried pwysigrwydd cael gafael ar dai da i annibyniaeth a chynhwysiant oedolion ag anghenion iechyd meddwl, mae gwir angen i Gymru fynd i’r afael â’r mater hwn ar unwaith.”

Beth ddylai ddigwydd

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion:

• Fe ddylai’r Llywodraeth wneud yn glir i’r holl asiantaethau yn y maes beth sydd i’w ddisgwyl ganddyn nhw.

• Fe ddylai’r rheolau ar gyfer cymdeithasau tai gynnwys cyfrifoldeb i weithredu gydag asiantaethau eraill i ddarparu ar gyfer pobol gydag afiechyd meddwl.

• Fe ddylai’r gwasanaethau iechyd, gofal a thai lunio trefniadau ar y cyd i weithredu yn y maes.

Llun o glawr yr adroddiad