Mae’r gobaith yn cilio fod glowyr Seland Newydd yn fyw o hyd, wrth i drafferthion daro’r ymdrech i’w hachub.
Am y tro cynta’, mae Prif Weinidog y wlad wedi cydnabod efallai na fydd y 29 yn fyw ar ôl cael eu dal mewn ffrwydrad dan ddaear ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.
Fe dorrodd un robot a oedd wedi ei anfon i lawr i’r pwll glo ac mae’r gwaith o dorri twll newydd i brofi am nwyon peryglus yn arafach na’r disgwyl.
Does dim arwydd o fywyd wedi bod ers i ddau ddyn ddod i’r wyneb ar ôl y ffrwydrad ym mhwll glo Pike River ar Ynys y De.
‘Tywyllu o awr i awr’
Yn ôl papurau lleol, mae pennaeth yr heddlu yn yr ardal yn dweud bod y darlun yn “tywyllu o awr i awr” ond mae Prif Weithredwr y pwll, Peter Whitall, yn dweud fod gobaith o hyd.
Er ei bod yn amlwg, meddai, nad yw’r glowyr i gyd efo’i gilydd yn aros am gymorth, roedd yn gobeithio bod rhai wedi goroesi.
Fe fydd achubwyr yn ceisio creu ail dwll yn agos at y fan lle y dylai’r glowyr fod.
Llun: Pwll Pike River (o wefan y cwmni)