Fe fydd diwrnod cenedlaethol o alaru yn Cambodia ar ôl i 349 o bobol gael eu lladd yn ystod gŵyl.

Yn ôl llygad dystion, fe drodd chwerthin yn ddagrau wrth i banig afael mewn torf fawr ac arwain at ruthr gwyllt.

Roedd miloedd o bobol yn cymryd rhan mewn dathliad traddodiadol i nodi diwedd y tymor glaw, a hynny ar ynys wneud yn y brifddinas Phnom Penh.

Mae’n ymddangos fod pobol wedi dechrau rhuthro am un o’r pontydd ac fe gafodd rhai eu gwasgu i farwolaeth ac eraill yn syrthio tros yr ymyl i’r dŵr.

Mae llywodraeth y wlad wedi cyhoeddi ymchwiliad i’r digwyddiad – yn ôl y Prif Weinidog, dyma’r trychineb gwaetha’ yn Cambodia ers lladdfa’r Khmer Rouge yn yr 1970au.

Fe ddywedodd un wraig ifanc ei bod wedi gweld gwragedd hŷn a phlant yn cael eu gwasgu i farwolaeth.

Llun: Map o’r ynys wneud – Ynys y Diamwnt – lle digwyddodd y trychineb