Mae llywodraeth Burma wedi gorchymyn 80 o gleifion sy’n diodde’ o HIV ac AIDS i adael canolfan arbennig ar eu cyfer, wedi i’r ymgyrchwraig dros ddemocratiaeth, Aung San Suu Kyi ymweld â’r lle.
Fe gafodd Suu Kyi ei rhyddhau wythnos yn ôl, ar ôl cael ei chadw’n gaeth i’w chartre’ am saith mlynedd, ac fe aeth i ymweld â’r ganolfan HIV ac AIDS ar gyrion Rangoon ddydd Mercher.
Fe fu’n addo darparu meddyginiaeth i’r ganolfan, ac yna fe anerchodd dorf o tua 600 o bobol a ddaeth yno i’w gweld.
Ddiwrnod wedi ei hymweliad, fe ddaeth swyddogion y llywodraeth yno i ddweud wrth gleifion y byddai’n rhaid iddyn nhw adael y ganolfan erbyn yr wythnos nesaf, neu wynebu’r canlyniadau cyfreithiol.
Pwysau
“Rwy’n credu bod yr awdurdodau eisiau rhoi pwysau arnon ni, oherwydd ymweliad Suu Kyi,” meddai Zeyar, un o drefnyddion y ganolfan sydd hefyd yn aelod o blaid wleidyddol Suu Kyi sydd wedi ei gwahardd gan lywodraeth Burma.
Mae Suu Kyi wedi galw am “chwyldro heddychlon” er mwyn dod â democratiaeth i Burma, ond mae hi wedi dweud ei bod yn ceisio cynnal trafodaethau gydag arweinwyr milwrol y wlad.