Mae Tywysog Cymru wedi awgrymu am y tro cynta’ y gallai ei wraig, Duges Cernyw, ddod yn frenhines pe bai ef yn cael ei goroni’n frenin.

Fe wnaeth Charles ei sylwadau yn ystod cyfweliad ar rwydwaith newyddion NBC yn yr Unol Daleithiau.

Yn swyddogol, mae’r rheolau’n mynnu mai Tywysoges Gydweddog (Princess Consort) fyddai teitl swyddogol Camilla, ac nid Brenhines.

Ond yn ystod y cyfweliad, wnaeth y Tywysog ddim cywiro’r cyflwynydd, Brian Williams, pan ofynnodd: “A ydi’r Dduges yn dod yn Frenhines Lloegr, os a phryd bynnag y dowch chi’n Frenin?”

Gan oedi rhyw ychydig, ateb Charles oedd, “Wel, gawn ni weld. Fe allai hynny ddigwydd.”

Pan briododd Charles a Camilla yn 2005, y gred oedd nad oedd Camilla’n dymuno bod yn Frenhines.