Fe fydd tafarn a gwesty enwog ym mhentref Llangadfan yn cau ddydd Sul ar ôl 700 mlynedd.
Fe fydd y rheolwr, Emyr Wyn Jones yn cau’r dafarn ddydd Sul nesaf. Fe fydd yr allweddi ganddo tan y dydd Gwener canlynol pan fydd yn eu rhoi yn ôl i Fragdy Admiral Taverns sy’n berchen yr adeilad.
Mae’r dafarn, sefydlwyd yn 1310, yn cau oherwydd bod rhent y perchnogion “yn rhy uchel,” meddai Emyr Wyn Jones wrth Golwg 360.
Eisoes, mae’r dafarn yn cael ei rhestru ar wefan y cwmni dan dafarndai sydd ar gael i’w rhentu am £28,000.
Cefn Gwlad
Er bod rheolwr y dafarn wedi bod mewn trafodaethau â’r Bragdy ers mis Mai, maen nhw wedi methu a dod i gytundeb gyda’r perchnogion, meddai Emyr Wyn Jones.
Yr wythnos nesaf fe fydd yn dechrau ar y gwaith o “dynnu’r gegin, y cadeiriau a’r holl fyrddau oddi yno”.
“Mater o egwyddor ydi o. Yng nghefn gwlad does dim digon o elw i dalu’r rhent.
“Mae’r gymuned tu cefn i mi ac mae’n bryd i ni ddangos iddyn nhw ei bod hi’n bryd callio a dechrau deall sut mae cefn gwlad yn gweithio.
“Mae’r gymuned yn gweld ym mod i wedi gwella’r lle – ond dyn busnes ydw i yn y pen draw a gallai ddim gadael i gwmnïau wneud rhywbeth fel hyn.”
‘Yr unig beth ar ôl’
Dywedodd Louise Smith, sy’n byw yn Llangadfan ac sydd wedi gweithio yn y gwesty ers dros ddegawd, mai’r Cann Office yw’r “unig beth sydd gennym ni ar ôl,” a’i fod yn “galon i’r gymuned”.
“Rydan ni wedi colli’n swyddfeydd post a’n siopau,” meddai cyn dweud y bydd yn ddi-waith erbyn yr wythnos nesaf.
Heddiw, roedd criw o oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn cael coffi yn y gwesty, meddai. “Mae cael cyfarfod a siarad yma yn rhoi hyder i ddysgwyr Cymraeg. Hwn fydd y dydd Iau olaf iddyn nhw.”
Dywedodd ei bod hi a’i mam yng nghyfraith “wedi ystyried” cymryd y lle drosodd ond fod y rhent yn “chwerthinllyd” ac y byddai’n rhaid iddynt brynu’r cwrw gan y bragdy, sy’n “costio mwy”.
“Dynion busnes yw Admiral Brewery sydd wedi prynu llwyth o dafarndai – does ganddyn nhw ddim empathi.”
Canolfan ddiwylliedig
Fe ddywedodd y gantores werin Siân James wrth Golwg360 fod yr “holl beth yn drasig a’r cwmnie ddim yn malio am ddiwylliant cefn gwlad”.
“Nid canolfan yfed yn unig yw Cann Office ond canolfan ddiwylliedig mewn ardal wledig,” meddai’r gantores o Lanerfyl oedd yn dweud fod y sefyllfa’n dangos “diffyg empathi a chydymdeimlad at fywydau pobl”.
“Mae’n golled enfawr i’r ardal – mi fydd yn ddiwrnod ofnadwy o drist. Mae hefyd yn adlewyrchiad o ba mor ddirfawr yw sefyllfa cefn gwlad ac yn arbennig i ardal fel hon lle mae’n rhaid i bobl deithio’n bell i gymdeithasu.”