Fe fydd y feicwraig o Gymru, Nicole Cooke yn cynrychioli tîm newydd Eidalaidd Mario Cipollini – Giordana y tymor nesaf.

Fe gafodd y tîm ei sefydlu gan y cyn feiciwr Federico Zechetto ac fe fydd yn cael ei reoli gan gyn bennaeth tîm Selle Italia-Ghezzi, Walter Ricci.

Fe fydd y Gymraes yn ymuno â dwy gyn bencampwyr rasio ffordd sef Tatiana Guderzo a Marta Bastianelli.

Mae’r Eidalwyr Rosella Callovi, Marta Tagliaferro, Rossella Gobbo, Samantha Galassi a Elisa Frisoni, yn ogystal â Jennifer Hohl o’r Swistir a Yulia Blindiuk o Rwsia, hefyd yn y tîm.

“Rydw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r tîm sydd mor uchelgeisiol,” meddai Nicole Cooke.

“Mae’r amrywiaeth o feicwyr yn golygu y gallwn ni fod yn gystadleuol ym mhob steil o rasio trwy gydol y tymor, ac rwy’n edrych ymlaen at gystadlu gyda’r holl ferched.”