Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yn Aberdâr.
Mae dyn yn ei 20au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn 51 oed ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Fe ymatebodd yr heddlu i alwad brys mewn bloc o fflatiau yn ardal Heol Keir Hardie ychydig cyn 4.00am fore dydd Llun diwethaf, ac fe ddaethpwyd o hyd i ddyn gydag anaf difrifol i’w wyneb.
Mae’r dyn 51 oed mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Treforys ac wedi derbyn triniaeth i’w anafiadau.
Dywedodd yr heddlu bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd.
“Fe allai’r cyhoedd fod yn dawel eu meddwl ein bod ni wedi cyhuddo rhywun o’r drosedd ac fe hoffwn ni ddiolch i’r gymuned am eu cydweithrediad,” meddai Ditectif Arolygydd Phil Camm.
Mae Heddlu De Cymru yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad, ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.