Mae bachwr Cymru, Huw Bennett wedi pwysleisio’r angen am linell a sgrym gadarn er mwyn gosod sail gadarn i Gymru yn erbyn Fiji nos yfory.
Fe fydd Fiji yn chwarae yn Stadiwm y Mileniwm am y tro cyntaf ers 2005, ond dim ond tair blynedd ers i Gymru golli yn erbyn Fiji yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2007 yn Ffrainc.
“Mae’r sgrym a’r llinell wedi bod yn dda hyd yn hyn,” meddai Huw Bennett sy’n cymryd lle’r capten Matthew Rees yn y rheng flaen.
“Mae Fiji yn dîm ymosodol cryf sy’n hoffi chwarae gyda’r bêl yn eu dwylo.
“Fe fydd rhaid i ni eu blino nhw yn y sgrymiau a’r llinellau ac fe fydd hynny’n ein helpu ni yn ystod y gêm.”
Mae Huw Bennett yn gwybod bod angen atal Fiji rhag chwarae gêm agored fel y digwyddodd yn 2007.
“Allwn ni ddim gadael iddyn nhw chwarae rygbi agored. Mae’n rhaid i ni fod yn gorfforol a chwarae’n dyn pan fydd angen.
“Roedd colli yn eu herbyn yn 2007 yn un o isafbwyntiau hanes rygbi Cymru. Roedd yna deimlad o rwystredigaeth ar ôl y gêm ac r’yn ni am wneud yn iawn am hynny.”