Mae18 o bobl wedi cael eu hanafu yn dilyn saethu y tu mewn i fosg yn ne-orllewin Pacistan yn ystod un o ŵyliau pwysicaf Islam.

Daeth y gwrthdaro yn sgîl dadl ynglyn â pha un o ddau glerig wrthwynebus ddyliai arwain y gwedd?o.

Yn ôl swyddog o’r heddlu, Javed Ahmed, roedd dilynwyr y ddau glerig yn barod gyda’u harfau pan gododd y ffrae, a dyna sut ddechreuodd y saethu yn y mosg yn nhalaith Baluchistan.

Mae Pashtuns brodorol y rhanbarth yn cario gyniau a dryllau gyda nhw o dydd i ddydd.

Ar hyn o bryd, mae Moslemiaid wrthi’n dathlu Eid al-Adha, neu Wledd yr Aberth. Mae’r ŵyl tridiau o hyd, a ddechreuodd heddiw ym Mhacistan, yn galw am ladd defaid neu wartheg er mwyn cofio am ffyddlondeb Abraham wrth gytuno i aberthu ei fab dros ei Dduw.