Mae Gwasanaeth tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi derbyn “degau o alwadau” heddiw yn ymwneud â llifogydd a glaw trwm yn yr ardal.
Sir Benfro ac ardal Penclawdd ar Benrhyn Gŵyr sydd wedi eu heffeithio fwyaf, meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth wrth Golwg360.
Mae’r gwasanaeth tân ac achub wedi cael eu galw i bum adeilad yn Noc Penfro ers oriau mân bore heddiw.
Roedd yna hefyd bobol yn gaeth mewn ceir ynghanol dŵr yn Llangwm ger Neyland, medden nhw.
Roedd y galwadau yn ymwneud yn bennaf gyda “dŵr yn dod i mewn i dai pobl,” meddai llefarydd.
Ychwanegodd y llefarydd bod y galwadau wedi “tawelu yn ystod yr oriau diwethaf” ond y dylai pobol gysylltu “os ydi dŵr yn mynd i mewn i dai”.