Fe fydd un o athletwyr benywaidd enwocaf Cymru, Non Evans yn lansio ei hunangofiant, Yn Erbyn y Ffactore, yfory.

Mae’r gyfrol yn sôn am ei chyflawniadau personol ac anawsterau bod yn fenyw uchelgeisiol sy’n ceisio llwyddo ar lefel ryngwladol ‘ym myd dynion’.

Mae Non Evans eisoes wedi ennill 87 cap dros Gymru ar y maes rygbi, wedi ennill dwy fedal arian mewn Jiwdo yng Ngemau’r Gymanwlad, ac wedi cystadlu mewn cystadlaethau codi pwysau a reslo ar draws y byd.

“Mae un o’r penodau yn y llyfr yn sôn am sut ges i fy nhaflu allan o dîm Rygbi Merched Cymru am fy mod i wedi gofyn am ddiwrnod i ffwrdd i adolygu ar gyfer fy arholiadau gwaith. Pe bawn i’n ddyn, fyddai hynny byth wedi digwydd achos fe fyddwn i’n broffesiynol,” meddai wrth Golwg360.

Wrth ei gwaith o ddydd i ddydd – mae’r athletwraig amryddawn yn gweithio i un o gwmnïau cyffuriau mwyaf Prydain – cwmni Pfizer yn mynd o amgylch ysbytai De Cymru yn gwerthu cyffur ar gyfer Rheumatoid arthritis.

“Fi’n gweithio er mwyn gallu fforddio teithio a chystadlu,” meddai cyn dweud nad yw wedi cael diwrnod i ffwrdd o’r gwaith eleni. “Dw i’n defnyddio fy niwrnodau gwyliau i gyd i fynd i gystadlaethau.”

Esiampl da

Dywedodd hoffai feddwl ei bod hi’n esiampl dda i ferched ifanc Cymru heddiw ac mae’n gobeithio y gwnaiff ei hunangofiant eu hysbrydoli.

“Pan oeddwn i’n fach, doedd yna ddim merched o Gymru â phroffil uchel mewn chwaraeon,” meddai.

“Hoffwn i ddangos ei bod hi’n bosibl i ferched lwyddo – yn erbyn y ffactore – er ei bod hi’n frwydr.”

Ond, mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau llwyddo fod yn barod i “aberthu popeth er mwyn cystadlu mewn chwaraeon”.

“Mae’n anodd cael perthynas achos fy mod i’n gorfod bod yn hunanol. Dydw i ddim yn gallu gweld fy nheulu gymaint â licen ni na mynd ar wyliau,” meddai.

Cant y cant

“Mae yna elfen o lwc mewn bywyd. Ond, rwyt ti’n gallu gwneud i bethe ddigwydd dy hun hefyd drwy roi 100% i bopeth,” meddai cyn dweud ei bod yn “craco lan weithie” ond fod yna rywbeth y tu mewn yn gwneud iddi “wthio ei hun”.

Un o’i hegwyddorion pwysicaf mewn bywyd, meddai yw “peidio â difaru dim” a gwneud popeth y mae hi eisiau ei wneud.

Ei nodau pennaf nawr fydd cystadlu yn y gystadleuaeth reslo yn y Gemau Olympaidd yn 2012, meddai.

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio nos Iau mewn noson yng nghwmni’r sylwebydd chwaraeon a’r cyflwynydd Huw Llywelyn Davies.