Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi dweud nad ydi adferiad economaidd Cymru yn sicr eto er gwaethaf ystadegau sy’n dangos bod nifer y di-waith wedi disgyn.

Syrthiodd diweithdra yng Nghymru 12,000 yn y tri mis cyn Medi, yn ôl ystadegau swyddogol ddatgelwyd heddiw.

Roedd 117,000 allan o waith, 8,000 yn llai nag ar yr un adeg y llynedd.

Yn ogystal â hynny, syrthiodd nifer y bobol ar y dôl 500 i 71,100 ym mis Hydref.

Daw’r ffigyrau ar yr un diwrnod ac y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn datgelu ei gynlluniau gwario ar gyfer y tair blynedd nesaf.

‘Adferiad bregus’

Dywedodd Ieuan Wyn Jones bod yr ystadegau yn galonogol. “Ond er gwaethaf y cynnydd rydym ni’n parhau’n wyliadwrus,” meddai.

”Rydym ni’n dal i deimlo ôl-effeithiau’r dirwasgiad ac mae’r data yn awgrymu bod economi Prydain yn tyfu’n arafach nag oedd hi.

“Mae’n rhaid i bawb weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod yr adferiad bregus yn un parhaol. Dyna y mae Llywodraeth y Cynulliad yn canolbwyntio arno.

“Er ein bod ni’n wynebu setliad ariannol anodd gan Lywodraeth San Steffan, rydym ni’n benderfynol o barhau i gefnogi economi Cymru a buddsoddi mewn sgiliau, ymchwil, datblygiad ac isadeiledd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu cystadlu gyda gweddill y byd.”

‘Anobaith’

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y byddai diwygiadau’r Llywodraeth i’r system fudd-daliadau yn annog mwy o bobol i fynd yn ôl i’r gwaith.

Yn ôl yr ystadegau a ryddhawyd heddiw roedd 3,000 yn fwy o bobol Cymru yn anweithredol yn economaidd yn ystod y chwarter diwethaf.

Mae hynny’n golygu bod 506,000 o bobol Cymru yn anweithredol yn economaidd, neu 26.7% o bobol rhwng 16 a 64 oed.

Dywedodd Cheryl Gillan bod hynny’n “broblem sy’n rhaid ei ddatrys cyn i genedlaethau’r dyfodol gael eu dal yn yr un diwylliant o ddiweithdra ac anobaith”.