Mae’r achos cyntaf o golera wedi ei gadarnhau yng Ngweriniaeth Dominica, bron i fis ar ôl i’r afiechyd daro ei chymydog, Haiti.

Mae’r dyn sydd wedi ei heintio yn fewnfudwr o Haiti, a fu’n ymweld â’i famwlad yn ddiweddar, meddai gweinidog iechyd Gweriniaeth Dominica.

Dros yr wythnosau diwethaf mae awdurdodau’r Weriniaeth wedi tynhau’r rheolau ar bwy sy’n cael croesi’r ffin er mwyn ceisio atal yr afiechyd rhag lledu o Haiti.

Mae llywodraeth Haiti yn dweud fod 1,034 o bobl wedi marw, a bod yr afiechyd yn lledaenu’n sydyn.

Dywedodd y gweinidog iechyd, Bautista Rojas, fod y dioddefwr, sy’n adeiladwr 32 oed o Haiti, yn cael ei drin ar ei ben ei hun yn nhref ddwyreiniol Higuey.

Dyma’r tro cyntaf i achos o golera gael ei gadarnhau yng Ngweriniaeth Dominica mewn mwy na chanrif.

Yn ôl elusen Medecins Sans Frontieres, mae eu canolfannau triniaeth yn y brif ddinas, Port-au-Prince, yn gorlifo gyda chleifion.

Ymateb y bobl

Roedd Haiti fel gwlad eisoes wedi gorfod ymdopi gyda daeargryn dinistriol ym mis Ionawr, pan laddwyd oddeutu 230,000 o bobl yn ardal y brifddinas Port-au-Prince.

Lladdwyd dau berson ddydd Llun yn ystod protestiadau treisgar yn erbyn lluoedd heddwch y Cenhedloedd Unedig, sy’n cael eu beio gan rai pobl yn Haiti o ddod â cholera i’r wlad.

Mae rhai ohonyn nhw wedi dod o Nepal, lle mae yna eisoes epidemig colera.

Ond yn ôl y Cenhedloedd Unedig, does dim tystiolaeth i gefnogi’r honiadau mai’r lluoedd heddwch ddaeth â cholera i Haiti.