Mae llefarydd ar ran y Teulu Brenhinol wedi dweud y bydd y Tywysog William a’i ddyweddi Kate Middleton yn “ymwybodol o’r sefyllfa economaidd” wrth gynllunio eu priodas y flwyddyn nesaf.

Ddoe cyhoeddodd Clarence House y byddai’r Tywysog William a Kate Middleton yn priodi yn y gwanwyn neu’r haf y flwyddyn nesaf ac yn byw yng ngogledd Cymru wedyn.

Ond daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfnod o ansicrwydd economaidd, ac ar drothwy cyfnod o lymder ariannol wrth i’r llywodraeth dorri’n ôl ar arian cyhoeddus.

Heddiw roedd y Tywysog William a Kate Middleton wedi eistedd i lawr gydag ymgynghorwyr brenhinol er mwyn dechrau trafod y diwrnod mawr.

Mae ambell i sylwebydd eisoes wedi galw am briodas “bach” ac yn ôl un arbenigwr ar y Teulu Brenhinol dyna fyddai’r Tywysog William a Kate Middleton yn ei hoffi hefyd.

“Fe fydden nhw’n hoffi priodas syml,” meddai Ciara Hunt, cyn-olygydd cylchgrawn Hello! Canada.

“Ond y gwir ydi na fyddai Prydain a gweddill y byd yn caniatáu hynny. Mae pawb wedi cyffroi eu bod nhw’n priodi.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Teulu Brenhinol mai’r ddau fydd yn priodi fydd yn gwneud y penderfyniadau pwysig.

“Eu dydd nhw fydd hon fel unrhyw gwpwl arall, ac fe fyddan nhw’n gwneud y penderfyniadau drwy’r cwbl – maen nhw eisiau i bawb fwynhau’r diwrnod.”

Yn ôl cwmni ymchwil economaidd Verdict bydd y briodas werth £620 miliwn i economi Prydain.

Mae archfarchnad Asda eisoes wedi dechrau gwerthu mwg £5 er mwyn dathlu dyweddïad y Tywysog William a Kate Middleton.

Bydd y Tywysog William yn dychwelyd i’w waith gyda’r Awyrlu Brenhinol yn y Fali, Ynys Môn, heddiw.

Mae Kate Middleton wedi bod yn treulio rhan o’i hwythnos yn byw’r gyda’r Tywysog William mewn bwthyn y maen nhw’n ei rentu ar Ynys Môn.

Mae disgwyl iddyn nhw symud i fyw yno’n barhaol ar ôl eu priodas.