Mae Aelod Cynulliad wedi dweud ei fod o’n pryderu ynglŷn â dyfodol dros 300 o swyddi sydd yn y fantol yn Sir y Fflint.
Mae cwmni Headland Foods Ltd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dechrau cyfnod 90 diwrnod o ymgynghori gyda 320 o staff.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol dros ogledd Cymru, Mark Isherwood, bod y newyddion yn “ergyd drom i Sir y Fflint”.
Mae yna sôn y gallai’r ffatri yn nhref y Fflint gau yn gyfan gwbl, ond dyw’r cwmni ddim yn fodlon gwneud unrhyw ddatganiad pellach ar hyn o bryd.
“Mae hyn yn ergyd fawr i Sir y Fflint,” meddai Mark Isherwood. “Torrodd y cwmni 95 o swyddi’r flwyddyn ddiwethaf ac fe fydd o’n boenus iawn colli 300 arall.
“Mae fy meddyliau i gyda’r gweithwyr a’u teuluoedd ar adeg anodd.”
Dywedodd Aelod Seneddol Delyn, David Hanson, bod gan y cwmni ddyletswydd i fod yn fwy agored ynglŷn â dyfodol y ffatri.
“Mae’r gweithlu wedi bod yn ffyddlon iawn ac mae’n bwysig ein bod ni’n diogelu cymaint o swyddi â phosib, er lles y gweithwyr a phobol y dref,” meddai wrth bapur newydd y Daily Post.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad eu bod nhw’n siomedig gyda’r newyddion ac wedi cysylltu gyda rheolwyr y cwmni.
Roedden nhw’n gobeithio y gallai’r cwmni osgoi unrhyw ddiswyddiadau gwirfoddol, meddai.
(Llun: Gwefan y cwmni)