Mae diemwnt pinc prin iawn wedi cael ei brynu am £29 miliwn mewn ocsiwn yn Genefa, gan dorri pob record flaenorol am drysor o’r fath.
Gwerthwyd y diemwnt 24.78 carat, sy’n cael ei ddisgrifio’n un “pinc ffansi dwys”, am 46,158,674 o ddoleri.
Roedd y pris yn chwalu’r record flaenorol, sef 24.3 miliwn o ddoleri (£15.3 miliwn) am ddiemwnt glas 35.56 carat y Wittelsbach Graff yn 2008, meddai arwerthwyr Sotheby’s.
Cafodd y ddau ddiemwnt eu prynu mewn arwerthiant yn Genefa gan y gemydd o Lundain, Laurence Graff.
Cyhuddwyd Laurence Graff o fandaliaeth pan aeth ati i ail-dorri’r diemwnt glas ar ôl ei brynu. Roedd rhai yn feirniadol iawn o’i fwriad i altro diemwnt oedd mor unigryw.
Yn ôl arwerthwyr Sotheby’s, mae gan y diemwnt un bai bach, er nad yw’n weladwy wrth edrych arno.
Dyw hi ddim eto’n glir a fydd Laurence Graff yn mynd ati i altro’r diemwnt pinc.