Mae nifer y bobol ddi-waith wedi cwympo 9,000 ar draws Prydain, ond mae nifer y bobol sydd yn gweithio’n rhan amser ar ei uchaf ers degawdau, datgelwyd heddiw.

Disgynnodd nifer y di-waith 12,000 yng Nghymru, i 117,000, cwymp o 8.1%. Dyma’r cwymp mwyaf yn nifer y di-waith y tu allan i dde orllewin Lloegr.

Ond roedd gan tua 1.15 miliwn o bobol ar draws Prydain swyddi rhan amser, neu yn hunangyflogedig, ar ôl methu â dod o hyd i waith llawn amser.

Roedd hynny’n gynnydd o 67,000 yn y tri mis tan fis Medi a’r nifer mwyaf ers i’r cofnodion ddechrau yn 1992.

Syrthiodd diweithdra ar draws Prydain i 2.45 miliwn, ond cynyddodd nifer y bobol a oedd allan o waith am fwy na blwyddyn gan 20,000 i 817,000.

Roedd cwymp o 62,000 hefyd yn nifer y bobol mewn gwaith llawn amser, i 18.17 miliwn, tra bod nifer y bobol mewn gwaith rhan amser i fyny 142,000 i wyth miliwn.

Cynyddodd y tal cyfartalog 2% yn y flwyddyn tan fis Medi, i £453 yr wythnos.


Y sector breifat ‘yn arwain y ffordd’

Roedd 6.5 miliwn yn gweithio yn y sector gyhoeddus, 22,000 yn llai, a , 23.11 miliwn yn gweithio yn y sector breifat, 308,000 yn fwy.

Dywedodd y gweinidog swyddi, Chris Grayling, bod hynny’n arwydd da.

“Mae’r sector breifat yn arwain y ffordd wrth greu swyddi a chyfleoedd ar gyfer pobol ar draws y wlad,” meddai.

“Mae’r ffigyrau heddiw yn dangos bod busnesau yn ymateb yn dda ac fe fyddwn ni’n parhau i’w helpu nhw i ehangu a datblygu wrth i’r economi dyfu.”

Ond dywedodd Paul Kenny, ysgrifennydd cyffredinol undeb GMB, nad oedd y toriadau mawr mewn gwario cyhoeddus wedi taro swyddi eto.

“Mae 27 cyngor eisoes wedi cyhoeddi y bydd 37,000 mil o bobol yn colli eu swyddi o ganlyniad i’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr fis diwethaf, ac mae’r ffigwr yn cynyddu bob dydd,” meddai.