Mae teulu dynes o Fro Morgannwg a ddisgynnodd 15 troedfedd oddi ar falconi gwesty yn Sbaen wedi talu teyrnged iddi heddiw.

Mae heddlu’r wlad yn dal i ymchwilio i farwolaeth Donna Sharp, 48 oed, a oedd yn byw yn fflatiau Butt Lee Court tref y Barri, ac a fu farw ddydd Sul ar wyliau yn Benidorm.

Dywedodd ei merch 25 oed, Angel, sydd hefyd yn byw yn y Barri, wrth Radio Wales mai “damwain trasig” oedd ei marwolaeth.

Disgynnodd Donna Sharp o westy Aquarium II yn ardal Playa de Levante y dref arfordirol. Roedd hi wedi aros yn yr un gwesty o’r blaen, meddai ei theulu.

Dyna oedd noson olaf ei gwyliau hi gyda’i phartner, medden nhw. Roedd hi wedi dychwelyd i’w ystafell wely i bacio a rhywbryd wedyn wedi disgyn i’w marwolaeth.

Dywedodd ei merch Angel ei bod hi wedi derbyn galwad ffôn ynglŷn â’r ddamwain yn oriau mân y bore dydd Sul.

“Roedd hi’n unigryw ac roeddwn i’n ei charu hi’n fawr iawn,” meddai wrth Radio Wales.

“Does yna ddim byd sy’n gallu eich paratoi chi ar gyfer galwad ffôn fel yna. Dydw i ddim yn meddwl y byddai byth yn dod i dermau gyda’r peth.”

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal dydd Llun ac fe fydd corff Donna Sharp yn dychwelyd adref rywbryd yn ystod y dyddiau nesaf.