Mae’r gwasanaethau achub wedi gorfod defnyddio hofrenyddion er mwyn achub pobol yng Nghernyw ar ôl i lifogydd daro’r sir dros nos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i achub gyrwyr oedd yn gaeth yn eu ceir a thrigolion oedd yn sownd yn eu tai ar ôl i law trwm daro’r ardal.

Bu’n rhaid defnyddio hofrenyddion ar ôl i ffyrdd a rheilffyrdd i mewn ac allan o’r sir gael eu cau gan dirlithriadau.

Mae yna adroddiadau ynglŷn â llifogydd tair troedfedd o ddyfnder yn nhref fechan Lanndreth yn y sir.

Mae trefi St Austell, Bodmin a Lostwithiel hefyd wedi eu taro gan law trwm a gwyntoedd cryfion.

Mae tirlithriad ar y rheilffordd ger Lostwithel wedi blocio’r brif reilffordd i mewn ac allan o’r ardal.

Mwy i ddod

Dywedodd Swyddfa’r Met bod yna beryg y bydd 50mm arall o law yn disgyn yn y sir yn ystod y dydd ac yn achosi mwy o lifogydd.

Yn ôl llefarydd ar ran Asiantaeth Priffyrdd Cernyw, maen nhw’n annog pobol i beidio â theithio yn y sir. Does yna ddim adroddiadau ynglŷn ag anafiadau difrifol ar hyn o bryd.

“Dyw hi ddim yn bosib mynd i St Austell a St Blazey ac mae pobol wedi eu caethiwo yn eu tai a’u cartrefi,” meddai Llefarydd ar ran Heddlu Cernyw a Dyfnaint.

“Cafodd gwylwyr y glannau a hofrenyddion achub eu defnyddio drwy’r nos. Mae’r glaw wedi atal ar hyn o bryd ond mae yna lifogydd dwfn mewn sawl man.”