Afon Gwy yw hoff afon pobol gwledydd Prydain, yn ôl pôl anffurfiol a oedd wedi ei gynnal gan Gronfa Fywyd Gwyllt y Byd, y WWF, a mudiadau amgylcheddol eraill.

Ond mae llefarydd ar ran y trefnwyr yn dweud ei bod hefyd yn wynebu problemau difrifol a bod angen eu datrys.

Roedd y WWF wedi cynnal pleidlais ar-lein ac wedi cael miloedd o ymatebion, gydag afon Gwy’n cael ei galw yn “ddiamser a hudol”.

Ond, yn ôl Ann Meikle o WWF Cymru, mae llygredd amaethyddol, diffyg pysgod a gormod o bori ar y glannau i gyd yn bygwth dyfodol yrafon ac mae angen mynd i’r afael â nhw.

AfonTafwys sydd wedi ei dewis yn afon waetha’ er ei bod yn uchel ar dabl yr hoff afon hefyd.

Afon Gwy

Mae afon Gwy’n tarddu ar fynydd Pumlumon yng Ngheredigion, yn llifo trwy Lanfair ym Muallt cyn croesi’r ffin i Loegr a dod yn ôl i Gymru yn Sir Fynwy.

Mae’r bardd Wordsworth ymhlith y rhai sydd wedi canu ei chlodydd.

Llun: Afon Gwyyn y Gelli (Claire Ward CCA 2.0)